Y Teimlad

Super Furry Animals

Composed by: Super Furry Animals
Y teimlad sy'n gyrru bobol i anghofio amser 
Y teimlad sy'n gyrru ti i feddwl nad yw'r dyfodol mor fler 
Y teimlad sydd yn dod a cyn sbarduno gobaith 
Ti'n gweld y tywod llwch ond ti'n gweld fod yno flodau 

Y teimlad, beth yw'r teimlad? 
Y teimlad sydd heb esboniad 
Y teimlad, beth yw'r teimlad? 
Y teimlad sy'n cael ei alw'n gariad 
Cariad, cariad, y teimlad 

Mae hapusrwydd yn codi ac yn troi yn wir rhywbryd 
Ac mae'n dangos fod yno rhywbeth mewn hyd yn oed dim byd 
A pan mae'r teimlad yno mae bywyd yn werth parhau 
Ond yn ei absenoldeb mae'r diweddglo yn agosau 

Y teimlad, beth yw y teimlad? 
Y teimlad, sydd heb esboniad? 
Y teimlad, beth yw y teimlad? 
Y teimlad, sy'n cael ei alw'n gariad
    Page 1 / 1

    Lyrics and title
    Chords and artist

    reset settings
    OK