‘Cariwch’, medd Dafydd, ‘fy nhelyn i mi Ceisiaf cyn marw roi tôn arni hi Codwch fy nwylo i gyraedd y tant Duw a’ch bendithio fy ngweddw a’m plant! ‘Neithiwr mi glywais lais angel fel hyn Dafydd, tyrd adref, a chwarae trwy’r glyn! Delyn fy mebyd, ffarwel i dy dant! Duw a’ch bendithio fy ngweddw a’m plant!